Cysylltwch am yr Hosteli a Gwersylla
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol
Yn 2015 enillodd Dolgoch a Tŷ’n Cornel statws Awyr Dywyll yn sgil ansawdd eu hawyr dywyll. Maes Awyr Dywyll yw ardal sy’n rhydd o lygredd golau artiffisial.
Ymhlith y cofnodion yn ein Llyfr Ymwelwyr yn Nolgoch mae sylwadau gan ymwelwyr a welodd y Llwybr Llaethog, Gwener ac Iau, cawod feteorynnau Persews, yr Aradr a’r Arth Fawr yn ogystal â’r helaethrwydd o sêr sy’n weladwy yn yr ardal hon i ffwrdd o lygredd golau. Yn ôl un ymwelydd, rhaid mai hwn yw un o’r safleoedd Awyr Dywyll gorau yn y wlad; gwnaethpwyd ei ymweliad yn gofiadwy drwy weld Orïon yn codi dros y mynydd.
Rydym yn croesawu seryddwyr amatur a phroffesiynol i ddod i’n hostelau i wylio gogoniant y nefoedd dan olau’r sêr. Mae’n brofiad y gall y teulu oll ei fwynhau hefyd.
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol