Cysylltwch am yr Hosteli a Gwersylla
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol
Ar gyfer gorchwylion ychydig llai egnïol, mae llawer o leoedd diddorol iawn i ymweld â nhw o fewn pellter gyrru i hosteli Dolgoch a Thŷ’n Cornel, gan deithio drwy olygfeydd agored helaeth Mynyddoedd Cambria. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn addas i deuluoedd gyda phlant bach ac yn ddelfrydol i wyliau teuluol.
Mae amrywiaeth o draethau o fewn cyrraedd rhwydd ar hyd Bae Ceredigion e.e. yn Aberaeron (Dolgoch 26 milltir, Tŷ’n Cornel 30 milltir), Aberporth, Ceinewydd, Penbryn a Thresaith.
Ewch i Amgueddfa’r Barcudiaid Coch yn Nhregaron (Dolgoch 9 milltir; Tŷ’n Cornel 10 milltir) i weld arddangosfa o hanes y diwydiant hosanwaith gwlân, a oedd mor bwysig yn yr ardal hon o Fynyddoedd Cambria yn y 19eg ganrif pan oedd gwau hosanau yn ddiwydiant cartref ffyniannus. Cewch flasu te a theisennau cri cartref yn yr amgueddfa ar yr un pryd! Mae’r amgueddfa hon ar agor bob dydd heblaw dydd Sul o fis Ebrill i fis Medi; dim ond ar benwythnosau y bydd ar agor yn ystod y gaeaf.
Gwarchodfa Natur Cors Caron (Dolgoch 11.6 milltir; Tŷ’n Cornel 12.4 milltir). (Mae’r prif faes parcio a’r fynedfa 3km i’r gogledd o Dregaron ar B4343).
Mae’r warchodfa natur hyfryd hon, rhwng Tregaron a Phontrhydfendigaid yn cwmpasu rhyw 2,000 erw. Ar y safle, ceir tair cyforgors a adeiladwyd i fyny o haenau dwfn o fawn ac a ffurfiodd dros ryw 12,000 o flynyddoedd. Mae yma dirwedd wyllt a wnaed yn hygyrch drwy rwydwaith o lwybrau bordiau er mwyn i ymwelwyr gyrraedd gwraidd cynefinoedd amrywiol a mwynhau gweld y bywyd gwyllt yn agos.
Ceir cylch 3km cwbl hygyrch o fordiau sy’n llwybro dros gors y de-ddwyrain ac sy’n addas i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn.
Mae mynediad i’r llwybr bordiau 450m i ffwrdd o’r prif faes parcio ar hyd llwybr cwbl hygyrch.
Cynigia’r daith gerdded ar hyd yr Hen Reilffordd lwybr gwastad i gerddwyr, beicwyr, cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn, ac mae llwybr dychwelyd yn cymryd rhyw ddwy awr.
I ddilyn y Daith Gerdded Glan Afon, sy’n cymryd hyd at 4 awr, mae angen trwydded arnoch gan y warden. Ffoniwch 01970 633555 i gael gwybod rhagor.
Tref farchnad yw Aberystwyth (tua 28 milltir o’r ddau hostel) a lle gwyliau hanesyddol sy’n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae yno ganolfan gelfyddydau ardderchog. Ceir rheilffordd glogwyn ac olion castell a sylfaenwyd ym 1277 gan Edward 1; mae ei rhodfeydd a’i thraethau caregog yn lle gwych i fwynhau’r awyr iach.
Dechreua rheilffordd Cwm Rheidol yma, sef lein fach sydd bellach ymhlith hen reilffyrdd prydferthaf Cymru. Mae’n cymryd awr i deithio’r 12 milltir i Bontarfynach gyda’i chyfres o raeadrau, gan fwynhau golygfeydd bendigedig ar y ffordd.
Bedair milltir ar bymtheg o Aberystwyth mae Tŷ Llanerchaeron a ddyluniwyd gan John Nash yn y 1790au ac sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian 9 milltir i’r dwyrain o Aberyswyth ar A44 (29 milltir o’r ddau hostel) yng nghanol dyffryn dramatig, gan feddu ar olygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Y ganolfan ymwelwyr yw’r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth o lwybrau gyda chyfeirbwyntiau i gerddwyr, beicwyr mynydd, rhedwyr a marchogion. Mae’n adnabyddus am ei thraddodiad dyddiol maith o fwydo’r barcudiaid coch, sef aderyn ysglyfaethus cenedlaethol Cymru (2pm yn y gaeaf; 3pm yn yr haf).
Bwydir Barcudiaid Coch hefyd yn Fferm Gigrin ger Rhaeadr Gwy (Dolgoch 29 milltir; Tŷ’n Cornel 50 milltir).
Yn Aberteifi (Dolgoch: 49 milltir; Tŷ’n Cornel: 46 milltir) mae Castell Aberteifi, sef cartref Eisteddfod Genedlaethol gyntaf Cymru a gofnodwyd ym 1176. Bu’n destun gwaith adfer mawr, ac mae ar agor i’r cyhoedd. Mae yno fwyty rhagorol, ac enillodd wobr ‘Restoration of the Year’ 2017.
Ewch â’r plant i badellu am aur ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi (Dolgoch 25 milltir; Tŷ’n Cornel 25 milltir) – sef mwyngloddiau tanddaearol ac arwyneb Rhufeinig hynafol ger Pumpsaint.
Roedd Abaty Ystrad Fflur anghysbell (Dolgoch 16 milltir; Tŷ’n Cornel 17 milltir), dan gysgod gwynt Mynyddoedd Cambria, yn ganolfan sefydledig ar gyfer y diwylliant Canoloesol. Dyddia’r olion distaw yn ôl i 1164 pan gafodd ei adeiladu gan fynachod Sistersaidd ger anheddiad mynachaidd cynharach byth.
Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nrefach Felindre (Dolgoch 37 milltir; Tŷ’n Cornel 34 milltir) sy’n arddangos y broses o drawsnewid cnu yn ddilledyn.
Pysgota ar Afon Teifi; mae tocynnau dydd ar gael.
Teithiau cwch o Geinewydd ac Aberteifi.
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol