Cysylltwch am yr Hosteli a Gwersylla
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol
Ers blynyddoedd lawer, mae’r Elenydd yn denu’r beiciwr mwy anturus. Mae’r ffyrdd ymhlith y tawelaf yng Nghymru ac yno nifer o lwybrau ceffyl a thraciau gan gynnwys cylchffordd 25 milltir Cronfa Ddŵr Llyn Brianne. Mae llawer o’r traciau coedwigaeth o safon uchel iawn a phrin y cânt eu defnyddio. Os ydych yn chwilio am her, bydd Grisiau’r Diafol ger Dolgoch ar ffordd Beulah i Dregaron yn bodloni hyd yn oed y dringwr mwyaf brwd.
Mae canolbwynt Lôn Las Cymru (Llwybr 8 NCN drwy Gymru o Gaerdydd i Gaergybi) ger hostel Dolgoch. Un llwybr hawdd i’r hosteli yw dilyn hen reilffordd Aberystwyth i Dregaron.- 'Llwybr Ystwyth', sy’n cysylltu â llwybrau NCN 81 (Lôn Cambria o Aberystwyth i’r Amwythig) ac 82 (Lôn Teifi o Abergwaun i Aberystwyth), sy’n pasio ger y ddau hostel.
Mae Tŷ'n Cornel a Dolgoch yn croesawu beicwyr, ac mae ganddynt storfa ddiogel i feiciau.
• Tregaron: 07813 702982 (Ieuenctid Cambria Youth Ltd) SY25 6NF E: info@icyuk.co.uk
• Cilcennin ger Llanbedr Pont Steffan: 01570 470079 SA48 8RS www.cyclemart.co.uk sydd hefyd yn trwsio beiciau
• Llanerchaeron: 01570 434514/07896895366 SA48 8DG pureridecycles@gmail.com
• Llanwrtyd: 01874 622485 LD5 4RW steve@bikehub.co.uk
• Trallwm ger Abergwesyn: 01591 611067 LD5 4TS info@forestcottages.co.uk
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol