• Dolgoch

    Dolgoch

    Mae’r hen ffermdy traddodiadol hwn ymmherfeddoedd Mynyddoedd Cambrian yn cynnig llety cyfforddus a chroesawgar i bawb – unigolion, grwpiau atheuluoedd.

Dewch i fwynhau llonyddwch yr hostel unigryw hwn yn Nyffryn Tywi yng nghanol Mynyddoedd Cambrian, Cymru.

Byddwch yn teithio yn ol i ddyddiau cyn trydan. Mae lle i 20 mewn 3 ystafell (1x4; 1x6; 1x10.

Gallwch drefnu ystafelloedd preifat, yr hostel cyfan am grwp mawr, neu wersylla tu allan. Mae cawodydd dwr solar-drydan, cegin hunan-wasanaeth, lolfa clyd ac ystafell ar wahan ar gyfer pobl ag anabledd.

Mae nifer o bethau i wneud yn yr ardal – beicio’r lonydd tawel lleol ee Lon Las Cymru gerllaw; cerdded llwybrau sy’n addas ar gyfer pob safon (mae Llwybr Cambrian gerllaw ar gyfer y rhai mwyaf anturus) a nifer o rai eraill sy’n addas am ferlota neu feicio mynydd. Bydd gwylwyr-adar (bird watching) wrth eu boddau yma hefyd gyda’r barcud coch yn aml yn hedfan uwchben. Mae Dogoch yn berffaith i’r rhai sy’n mwynhau tawelwch a’I leoliad yn agos at hen Ffordd y Porthmyn gynt dros Fynyddoedd godidog y Cambrian a heibio ein hostel anhysbell arall, Ty’n Cornel 5 milltir i ffwrdd. Beth am gerdded o un i’r llall ac aros dros nos yn y ddau le?

Adnoddau

  • Cysgu: 20 gwely: (3 ystafell - x4; x6, x10). Darperir duvet, clustog a lliain gwely glan. Peidiwch dod a’ch cwdyn cysgu eich hunan. Mae gan y Warden ystafell ar wahan.
  • Gwres: Mae dwr cynnes yn dod o’r paneli solar ac mae 2 gawod cymundedol a basn molchi ym mhob ystafell. Mae stof pren yn cynhyrchu gwres i’r lolfa/cegin fawr.
  • Coginio: Mae 1 stof nwy x4 cylch gyda ffwrn a gril, 2 stof bach x2 gylch, 1 gril ychwanegol; digonedd o gyllyll, ffyrc, llwyau, sosbenni ac offer cegin priodol. Dylech ddod a’ch bwyd eich hunan ond mae ychydig a duniau a bwyd sych ar gael i’w prynu mewn argyfwng. Mae’r dwr o nant lleol yn iawn am ymolchi a choginio ond dylech ei ferwi cyn yfed.
  • Tu allan: Teras hyfryd yn gwynebu’r de gyda bwrdd picnic a chadeiriau / digon o le i wersylla /sied i gadw beiciau dan glo.

Sut I gyrraedd

Gyrru

  • O’r dwyrain – A483 tua hanner ffordd rhwng Llanfair ym Muallt a Llanymddyfri mae’r ffordd i Abergwesyn nail ai o Lanwrtyd neu Biwla. O Abergwesyn ewch tuag at Dregaron am tua 5 milltir. Ar ol y ‘Devil’s Staircase’ rhiw serth iawn fe welwch arwydd am yr hostel ar y chwith wrth y bont dros Afon Tywi. Mae’r hostel tua 1 milltir.
  • O’r de – O Lanymddyfri ewch ar hyd yr heol cul trwy Cilycwm, heibio Llyn Brianne, heibio ty gwyn ar y dde rhywfaint yn bellach ymlaen. Trowch I’r chwith tuag at Tregaron. Mae’r arwydd I’r hostel ar y chwith ar waelod y rhiw.
  • O’r gorllewin – O Dregaron ar hyd Heol y Mynydd I Lanwrtyd am tua 10 milltir. Wrth gyrraedd y ffin rhwng Ceredigion a Phowys ger bont dros afon Tywi fe welwch arwydd I’r hostel ar y dde.

Cod Post SY25 6NR (peidiwch dibynnu ar SatNav)

1:50000 OS map: Landranger 147

1:25000 OS map: Explorer 187

Cyfeirnod: SN 806 562

Hydred 52.1910

Lledred -3.7476

Trafnidiaeth Cyhoeddus lleol

www.traveline.cymru yn dda am amserlenni ayyb.

  • Tren Llanwrtyd (o’r orsaf – Tacsi - Owen’s Taxis 07951 804958)
  • Bws Tregaron (o Tregaron - Caron Tacsi 01974 298652)

Os am feicio neu gerdded ar hyd lonydd mwy diddorol, cliciwch ar CYSYLLTU am fanylion

Am drefnu?

  • Ty'n Cornel

    Ty'n Cornel

    16 gwely bync mewn 2 ystafell

Gwybodaeth pellach

Mae’r hostel ar agor trwy’r flwyddyn: Mawrth – Tachwedd (gyda Warden, fel arfer); Rhagfyr – Chwefror ( heb Warden yn aml). Yn ystod y gaeaf, i leihau difrod rhew, does dim cyflenwad llawn o ddwr – tap oer yn y gegin yn unig.

Dewch unrhyw bryd cyn 10.30pm. Mae’r warden ar ddyletswydd rhwng 5.00pm – 10am.

Wedi i chi drefnu dod byddwch yn derbyn cod y drws.

Mae ffon gwifren ond does dim signal ffon symudol.

Dim cwn heblaw am gwn tywys.

Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu am eich holl eiddo.

Cliciwch y fideo isod I weld y golygfeydd gwych o’r drws ffrynt.

Cysylltiadau

Trefnu

Lluniau

Cyfryngau Cymdeithasol a Mwy

Dolgoch Ty'n Cornel




Website by InSynch

Cysylltu

Dolgoch

Cyfeiriad – Hostel Dolgoch, Tregaron, Ceredigion SY25 6NR

Rheolwr – 01440 730 226

E-bost - dolgoch.bookings@elenydd-hostels.co.uk


Ty'n Cornel

Cyfeiriad – Hostel Ty’n Cornel, Llanddewi Brefi, Ceredigion SY25 6PH

Rheolwr – 01980 629259

E-bost - tyncornel.bookings@elenydd-hostels.co.uk