Hosteli Unigeddau’r Elenydd – Hosteli Annibynnol yng Nghanolbarth Cymru, y DU
Dihangfa o bobman.
Hosteli yng nghanol Mynyddoedd Cambria, gwir wylltir olaf Cymru
Mae’r ddau hostel hyn, a arferai fod yn Hosteli Ieuenctid YHA, yn ucheldir cefn gwlad anghysbell Canolbarth Cymru lle clywir cri’r barcud coch yn amlach na sŵn ceir. Ardal o graig, fforest ac afonydd dolennog sydd yma, ac afon Tywi’r mwyaf adnabyddus ohonynt; cewch yma lonyddwch sydd bron yn amhosibl ei gael yn unman arall yng Nghymru, Lloegr neu’r DU. Mae’r hosteli/tai bynciau yn berffaith ar gyfer unigolion, parau, gwyliau teuluol a grwpiau, neu gallwch wersylla o dan ein hawyr gwbl dywyll. Cynigir prisiau gwersylla consesiynol i gyfranogwyr Gwobr Dug Caeredin.
Yn hostel Dolgoch mae 20 gwely mewn 3 ystafell gyda lle i 4, 6 a 10, ac yn hostel Tŷ’n Cornel, mae lle i 16 gysgu mewn dwy ystafell o 8. Gallwch wersylla yn y ddau le. Nid oes teledu, signal ffôn symudol na’r rhyngrwyd yn yr un o’r hosteli i dynnu eich sylw i ffwrdd o’r gwylltir o’ch cwmpas. Ceir stofiau llosgi pren yn y ddau hostel i’ch cadw’n glyd fin nos. O amgylch yr hosteli ym Mynyddoedd Cambria a ledled Gogledd a De Cymru, mae digonedd o bethau i’w gwneud – cerdded a heicio ar lwybrau anghysbell, beicio ar ffyrdd tawel a thraciau coedwig, gwylio’r sêr mewn awyr hynod o dywyll, archwilio lleoedd lleol o ddiddordeb neu, yn syml, mwynhau gwyliau heddychlon, di-dechnoleg fel unigolyn, grŵp neu deulu.
Ymfalchïwn yn ein sgôr 5 seren ar TripAdvisor ar gyfer y ddau hostel. Beth am ymweld â’r Oriel i ddysgu pam mae pobl wrth eu bodd yn aros yn ein hosteli unigryw?
Mae Gwelyau gennym o £14 y noson ac Ystafelloedd cyfan o £50 y noson