Cerdded a Heicio ym Mynyddoedd Cambria, Cymru, y DU


Mae ein hosteli unigryw a hanesyddol wedi’u gosod yn berffaith yng nghanol Mynyddoedd Cambria ac yn agos i Ffordd Cambria. O’n dau hostel, ceir llwybrau cerdded a heicio sy’n addas i bob gallu. Mae gan hosteli Dolgoch a Thŷ’n Cornel lwybrau cerdded sy’n dechrau o’r drws neu ychydig bach i ffwrdd mewn car. Cwm Doethie, yn agos i hostel Tŷ’n Cornel, yw un o drysorau Cymru ac mae’n addas ar gyfer teithiau cerdded hirach neu bicnic i’r teulu. Ceir hefyd teithiau sy’n cymryd mwy na diwrnod ar hyd Ffordd Cambria neu i gysylltu â chyfres o fythynnod yng nghymoedd uchaf Tywi ac Elan. Yn ogystal â’r llwybrau troed cyhoeddus, mae llawer o’r tir uwch yn agored i gerddwyr. Golyga hyn y gall cerddwyr fynd i ble a fynnant, ond gwyliwch rhag yr ardaloedd corslyd, twmpathog sy’n anodd iawn eu cerdded, ac sy’n well eu hosgoi.

Mae ein hosteli/tai bynciau yn berffaith i gerddwyr, heicwyr ac ymdeithwyr. Rydym wedi hen arfer â helpu cerddwyr i sychu eu hesgidiau mwdlyd a hongian dillad gwlyb i sychu. Mae ein wardeniaid gwirfoddol yn llawn gwybodaeth am yr ardal leol a gallant argymell llwybr. Ceir tuag 20 o ganllawiau cerdded yn ymdrin â theithiau cerdded i bob gallu o bob hostel. Yn y canllawiau hyn i gyd, mae cyfarwyddiadau a map, ac maent ar gael yn yr hosteli. Gallwch hefyd eu hargraffu eich hunain o’r dolenni PDF canlynol:


  • Dolgoch

    Dolgoch

    20 gwely bync mewn 3 ystafell (1x4; 1x6; 1x10)

  • Ty'n Cornel

    Ty'n Cornel

    16 gwely bync mewn 2 ystafell

Teithiau Cerdded Tywysedig ym Mynyddoedd Cambria - Twm's Treks

Am dywysydd lleol profiadol, cysylltwch â 01974 298150 am fanylion. Gwefan: twmstreks.com

Clwb Cerdded Tregaron

Am weithgareddau cerdded lleol, ewch i:

clwbcerddedtregaron.site

Cyfryngau Cymdeithasol a Mwy

Dolgoch Ty'n Cornel




Website by InSynch

Cysylltu

Dolgoch

Cyfeiriad – Hostel Dolgoch, Tregaron, Ceredigion SY25 6NR

Rheolwr – 01440 730 226

E-bost - dolgoch.bookings@elenydd-hostels.co.uk


Ty'n Cornel

Cyfeiriad – Hostel Ty’n Cornel, Llanddewi Brefi, Ceredigion SY25 6PH

Rheolwr – 01980 629259

E-bost - tyncornel.bookings@elenydd-hostels.co.uk