Cysylltwch am yr Hosteli a Gwersylla
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol
Ewch â’ch teulu yn ôl i oes a fu, cyn y ffôn symudol, y rhyngrwyd a gemau cyfrifiadur. Mwynhewch fynd am dro tawel, ymweld ag atyniadau lleol neu reidiau beic diarffordd cyn dychwelyd am noson glyd o gwmpas ein llosgydd coed i ddarllen straeon, chwarae gemau bwrdd neu ymlacio o flaen tân coed yn clecian.
Mae hosteli Tŷ’n Cornel a Dolgoch yn cynnig llety rhad i’r teulu mewn mannau unigryw ym Mynyddoedd Cambria. Gellir cadw ystafelloedd preifat yn y ddau hostel. Yn Nolgoch mae ystafelloedd 4 a 6 gwely ar gael ac yn Nhŷ’n Cornel mae un ystafell 8 gwely y gellir hefyd ei chadw i’w defnyddio gan lai o bobl. (Nodwch y dyddiadau sy’n ofynnol gennych ar ein tudalen archebu a chewch weld sut mae hyn yn gweithio!) Mae croeso hefyd i deuluoedd wersylla yn y ddau hostel.
Mae’r ceginau hunanarlwyo yn y ddau hostel yn ddefnyddiol iawn i deuluoedd heb lawer i’w wario. Yn y ddau hostel, ceir lolfeydd cyffyrddus, yn ddelfrydol i’r teulu cyfan ymlacio ynddynt, a dewis o gemau bwrdd, llyfrau a gweithgareddau. I’r aelodau ieuengach o’r teulu, mae helfeydd trysor cyffrous yn y ddau hostel. Un ffefryn arall yw chwarae a rasio cychod tegan yn y nant yn Nhŷ’n Cornel. Cynigir teithiau cerdded lefel isel sy’n addas i gadeiriau gwthio hefyd yng ngwarchodfa natur Cors Caron gerllaw.
Nid oes gan y naill hostel na’r llall gysylltiad rhyngrwyd na signal ffôn symudol i’ch cadw rhag mwynhau pleserau syml, sef treulio’r diwrnod yng nghefn gwlad hardd canolbarth Cymru cyn dychwelyd i baratoi’r pryd bwyd gyda’r nos, cyn chwarae gêm neu ddarllen stori o gwmpas y tân clyd.
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol