Cysylltwch am yr Hosteli a Gwersylla
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol
Yn y rhan wyllt hon o fynyddoedd Cambria, sy’n ddigyffwrdd i raddau helaeth, y llwyddodd y barcudiaid coch o drwch blewyn i oroesi ar ôl i’r niferoedd ostwng i ddim ond rhyw 25 o oedolion ym 1960. Adroddir stori ddramatig eu hachub yn yr hen ysgoldy yng Nghanolfan y Barcudiaid Coch yn Nhregaron. Yma hefyd y mae’r gwiwerod coch brodorol wedi goroesi ac mae’r ddau hostel yng nghanol yr ardal lle mae Prosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru yn ceisio eu hachub rhag difodiant.
Mwynhewch yr heddwch wrth eistedd allan yn Nolgoch a gwylio’r gwenoliaid yn gwibio’n isel dros y dolydd glan afon cyn dychwelyd nerth eu hadenydd i’r ysgubor, neu ar y fainc yn Nhŷ’n Cornel lle mae pilaod gwyrddion lliwgar yn cweryla dros hadau. Efallai y gwelwch chi wenci’n dawnsio mewn cylchoedd gwyllt fin nos neu ystlumod yn hedfan ymysg y ffawydd wrth ichi grwydro i lawr y lôn. Gwyliwch yr haul yn goleuo tu isaf llwytgoch y barcud coch wrth iddo hofran yn ddistaw uwchben. Ar ddiwrnod gwlyb o hydref, sylwch fod lliwiau’r rhedyn ar y llechweddau’n rhyfeddol o lachar. Tua diwedd mis Mai, mae llechweddau cyfan o flodau’r gog yn las-borffor rhyfedd yn yr heulwen.
Gwylio adar: eurbincod, cigfrain, melyn yr eithin, crec penddu’r eithin, cochion yr eithin, tinwynion, trochwyr, pincod y mynydd, heidiau mawr o sogieir a chochion yr adain yn yr hydref, sgrechod y coed yn plannu mes, cnocellod y coed yn morthwylio’n ddyfal, mwyeilch y mynydd, tylluanod gwynion, bodaod tinwyn a llawer mwy. Mae logiau bywyd gwyllt yn y ddau hostel er mwyn cofnodi beth oedd o ddiddordeb i chi.
Ar hyd glannau’r nant mae darnau o flodau’r mêl, briallu ym mis Ebrill, tegeirianau, carwe troellog, clychlys eiddewddail; yn yr ardaloedd corsiog, cadwch lygad am chwys yr haul a thafod y gors cigysol prydferth; bwtsias y gog eiddil a’r bengaled lachar ar y bryniau ym mis Awst; bwrned mawr yn y ddôl ger Dolgoch.
Mewn rhai mannau yn y dyffrynnoedd, ceir pocedi o dderw digoes a rhai gwerni hynafol hyfryd. Mae hyd yn oed un llwyfen yn cuddio o hyd yn nyffryn nant fechan. Mae aeron criafol coch llachar yn yr hydref ac yn yr awyr iach aroglau blodau drain gwynion a chrabas yn y gwanwyn.
Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn ceisio denu’r eogiaid a’r brithyllod môr yn ôl i afon Tywi a’i llednentydd, yn enwedig Afon Doethie sy’n llifo heibio Tŷ'n Cornel. Ailgyflwynwyd bele’r coed gerllaw ac mae sïon am afanc.
Mae’n werth ymweld â gwarchodfa natur RSPB Gwenffrwd-Dinas 11 milltir o Ddolgoch - cerdded ar lan yr afon, ogofâu a choetir derw prydferth gyda blodau’r gog yn y gwanwyn a chlochdarod y mynydd ac ati. Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron tua 12 milltir o’r ddau hostel.
Nodwyd dros 150 o rywogaethau o wyfynod o gwmpas yr hostelau, gan gynnwys Brychan Sgolpiog; Brychan Dyfnaint; Gwyfyn Titw; Llwyd Gloyw; Gwensgod Fawr; Clustwyfyn Oren; Gwyfyn Plu’r Gweunydd.
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol