Cysylltwch am yr Hosteli a Gwersylla
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol
Yn arbennig ymysg Hosteli Cymru, dyma’r un mwyaf anhysbell. Wedi ei leoli mewn ardal brydferth ac unig, mae’r llety yn groesawgar a chyfforddus.
Mae’n llawn cymeriad– fel hen ffermdy o’r 19G, mae ganddo waliau carreg trwchus, teiliau ar lawr, trawstiau nenfwd a hen feinciau (yn cynnwys setl o Oes Fictoria) yn ogystal a chadeiriau esmwyth, stof llosgi pren newydd; bynciau newydd a thrydan – oll yn cyfrannu at lety cyfforddus heb golli naws traddodiadol. Mae offer digonol yn y gegin, cawod trydan, cyfleusterau golchi/toiled i ddynion a merched ar wahan a phaneli solar sy’n cyfrannu tua 50% o’r trydan.
Ond y sefyllfa sy’n unigryw am Ty’n Cornel – 7 milltir o Landdewi Brefi ym mhrydferthwch godidog Dyffryn Doethie. Wrth ddisgyn i’r cwm, byddwch yn sylweddoli ei fod yn le arbennig. Gallwch gerdded neu feicio o garreg y drws, mwynhau troelliadau cul a serth y cwm, y meysydd agored gwyrdd, yr hen fforestydd a chreigiau. Dywedir taw dyma rhan mwyaf bendigedig 290 milltir Ffordd Cambrian. Mae Mynyddoedd y Cambrian ar gael i chi hefyd – bryniau i fyny at 450m o le gallwch weld Bannau Brycheiniog yn y pellter. Yn y dyffryn nesaf, mae Cronfa Ddwr Llyn Brianne a’i olygfeydd tra gwahanol. . 6 milltir i ffwrdd mae hostel Dolgoch – gallwch gerdded yno ac yn ol gan aros yn y ddau hostel - ac mae nifer o atyniadau eraill ychydig yn bellach i ffwrdd.
Llety: 16 gwely bync mewn 2 ystafell, un i ddynion, un i ferched fel arfer. Mae ystafell llai i’r warden. Darperir lliain gwely glan i’w defnyddio gyda duve a chlustogau. Gallwch logi tywel. Mae 2 gawod trydan a thoiledau ar wahan i ddynion a merched.
Lolfa: Stof llosgi pren, 2 fwrdd a meinciau, cadeiriau esmwyth, cadeiriau siglo, llyfrau/papurau/chwaraeon.
Cegin
Tu allan: Teras yn gwynebu’r de gyda byrddau picnic a seddi. Cyntedd gwydr gyda seddi. Lle i 6 phabell fach. Stordy cryf ar gyfer beiciau.
Mewn car/beic
Cod post : SY25 6PH
1:50000 OS map: Landranger 146 and 147
1:25000 OS map: Explorer 187
Cyfeirnod SN 751 535
Hydred 52.1655
Lledred -3.8281
Trafnidiaeth cyhoeddus agosaf
www.traveline.cymru ardderchog am gael amserlen.
Beicwyr/cerddwyr – gwasgwch fotwm CYSYLLTU am fwy o syniadau ar sut i gyrraedd.
Ar agor trwy’r flwyddyn gyda’r warden yn bresennol fel arfer rhwng misoedd Mawrth – Tachwedd.
Wedi i chi drefnu aros byddwn yn anfon cod y drws atoch.
Mae’r milltir olaf o Landdewi Brefi ar hyd trac heb darmac o eiddo’r Cyngor.
Mae croeso i chi gyrraedd unrhywbryd cyn 10.30pm. Mae’r Warden ar ddyletswydd rhwng 5 a 10.30pm.
Does dim ffon na signal ffon symudol yn yr hostel. Rhaid mynd 1 milltir tuag at Landdewi Brefi i dderbyn signal.
Dim cwn ond am rai tywys
Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu am eich holl eiddo
Cliciwch y fideo isod i weld yr olygfa wych o’r drws ffrynt!
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu yn fuan
*Gorfodol