Cadw Llety

Argaeledd, Prisiau a Threfnu eich Gwyliau

I weld prisiau’r ddau hostel, ac i gadw ystafell ar-lein:

  • Cliciwch ar ddyddiad dechrau sydd ar gael.
  • Gofynnwch am nifer y nosweithiau a hoffech pan ofynnir ichi. Yna bydd y tabl yn arddangos pris eich gwyliau.
  • Gallwch gadw ystafell ar-lein drwy lenwi’r ffurflen sy’n ymddangos ar ôl ichi ddewis eich dyddiadau a chlicio ‘Archebu Nawr’.

Cadw Llety Dolgoch

Cadw Llety Tŷ'n Cornel


Canllaw Prisiau

  • Gwelyau unigol £14 ♦
  • Ystafelloedd Preifat o £50
  • Hostel Cyfan o £200
  • Gwersylla £8 ♣

♦ Mae prisiau consesiynol ar gael i blant 5 - 17 oed, myfyrwyr a phobl sy’n cael Credyd Cynhwysol. Cofiwch holi.

Holwch a ydy’r ystafell ar gael sy’n hygyrch i gadair olwyn yn Nolgoch, ac am ei phris.

♣ Mae pris gwersylla consesiynol ar gael i gyfranogwyr Gwobr Dug Caeredin. Cofiwch holi.

Hysbysiad Preifatrwydd

  • Pan gyrhaeddwch yn ein hostelau, bydd gofyn ichi lenwi Cerdyn Cofrestru â’ch enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn. Mae hyn yn cwblhau’r contract sydd gennym gyda chi i ddarparu llety a hefyd er mwyn inni gysylltu â chi i roi gwybodaeth am eich arhosiad. Nid ydym yn casglu, prosesu na storio manylion cerdyn talu.
  • Efallai y defnyddiwn eich cyfeiriad e-bost i farchnata llety yn ein hostelau – ond nid at unrhyw ddiben arall. Cysylltwch â ni i ddewis peidio â gwneud hyn.
  • Mae gennych yr hawl i fynnu ein bod yn darparu’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi i chi a hefyd i ofyn inni ddileu’r wybodaeth hon pan na fydd yn ofynnol rhagor at y dibenion y soniwyd amdanynt yn flaenorol.
Byddwn yn parhau i ddiogelu a gwarchod gwybodaeth ac yn ei chadw am chwe blynedd ar y mwyaf. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu byth â thrydydd parti.



  • Dolgoch

    Dolgoch

    20 gwely bync mewn 3 ystafell (1x4; 1x6; 1x10)

  • Ty'n Cornel

    Ty'n Cornel

    16 gwely bync mewn 2 ystafell

Talebau Gwyrdd

Am flwyddyn o 24 Mawrth 2018 mae talebau ar gael ar gyrraedd yr hostelau i’r rheini sy’n cyrraedd ar droed neu ar gefn beic. Gall deiliaid y talebau hawlio arhosiad arall am 50% o’r pris llawn.

Holwch y warden am fanylion pan fyddwch yn cofrestru yn y naill hostel neu’r llall (bydd y talebau ar gael am flwyddyn).

Cyfryngau Cymdeithasol a Mwy

Dolgoch Ty'n Cornel




Website by InSynch

Cysylltu

Dolgoch

Cyfeiriad – Hostel Dolgoch, Tregaron, Ceredigion SY25 6NR

Rheolwr – 01440 730 226

E-bost - dolgoch.bookings@elenydd-hostels.co.uk


Ty'n Cornel

Cyfeiriad – Hostel Ty’n Cornel, Llanddewi Brefi, Ceredigion SY25 6PH

Rheolwr – 01980 629259

E-bost - tyncornel.bookings@elenydd-hostels.co.uk