Amdanom Ni a’n Hosteli yng Nghymru, y DU

  • Mae ymddiriedolaeth Hostelau Unigeddau’r Elenydd (HUE) yn elusen gofrestredig (rhif elusen gofrestredig 115946) ac fe’i sefydlwyd yn 2006 pan gyhoeddodd YHA ei fod am gau a gwerthu ei hosteli ym Mynyddoedd Cambria.
  • Yn sgil gwaith caled ac ymroddiad llawer o wirfoddolwyr, mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithredu dau o’r hosteli hyn yn annibynnol erbyn hyn, sef Tŷ’n Cornel a Dolgoch, ac mae wedi ymrwymo i’w cynnal a’u cadw, eu gwella ac ehangu eu defnydd mewn modd sy’n ystyriol o’r amgylchedd.
  • Yn 2007, cododd yr arian i brynu Dolgoch ac yna sicrhaodd grant mawr am waith ailwampio yma. Gwnaethpwyd llawer o welliannau yn hostel Tŷ’n Cornel ac fe’i prynwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn 2013. Yn rhan o’i hymrwymiad i weithredu’r hosteli mewn modd cynaliadwy/eco-gyfeillgar, mae’r Ymddiriedolaeth wedi gosod pŵer solar i oleuo Dolgoch a gwresogi’r dŵr yno. Yn Nhŷ’n Cornel, mae prif gyflenwad trydan yn ogystal â phaneli solar sy’n darparu dŵr poeth, cawodydd a rhywfaint o wres; mae gosod paneli solar yn yr hostel hwn wedi lleihau ei ôl troed amgylcheddol drwy ddisodli tua 50% o’r prif gyflenwad trydan a ddefnyddir. Nid oes teleffon llinell dir.

Gallwch helpu i ddiogelu’r hosteli unigryw hyn i genedlaethau’r dyfodol drwy ymaelodi â’r Ymddiriedolaeth. Cysylltwch â Allan Henson am fanylion: members@elenydd-hostels.co.uk

  • Drwy ymaelodi â’r Ymddiriedolaeth, cewch gylchlythyron rheolaidd yn rhoi’r holl newyddion diweddaraf ichi am yr hosteli. Beth am ddod i un o’n cyfarfodydd agored rheolaidd hefyd?
  • Gallech helpu hefyd drwy fod yn warden gwirfoddol neu gymryd rhan mewn gweithgor i ailwampio’r hosteli; efallai helpu i godi arian neu sicrhau cyhoeddusrwydd, neu wneud rhodd. Am fanylion cysylltwch â Marilyn Barrack: chair@elenydd-hostels.co.uk

Mae Aelodau HUE yn cael 15% o ddisgownt gan yr adwerthwyr canlynol:

Cotswold Outdoors, Cycle Surgery, Runners Needs, Snow+Rock, Blacks, Milletts ac Ultimate Outdoors.

  • Ac, yn bwysicaf oll, arhoswch yn yr hosteli pan allwch chi ac anogwch eraill i wneud yr un peth. ‘Heb eu defnyddio, fe allwn eu colli’.

Elenydd Wilderness Hostels / Hosteli Unigeddau'r Elenydd

MEMBERSHIP APPLICATION / RENEWAL

Adult Membership

Aelodaeth 18+



Rwi'n talu treth yn y DU ac am Ymddiriedolaeth yr Elenydd ystyried pob taliad ers 6 Ebrill 2019 fel Rhodd Gymorth tan ddywedaf yn wahanol
Aelodaeth


Junior Membership

a dan 18

  • Dolgoch

    Dolgoch

    20 gwely bync mewn 3 ystafell (1x4; 1x6; 1x10)

  • Ty'n Cornel

    Ty'n Cornel

    16 gwely bync mewn 2 ystafell

I wneud rhodd, cliciwch y ddolen isod

Newyddion i Aelodau’r Ymddiriedolaeth

Y Cylchlythyr Diweddaraf

Gwanwyn 2018

Cylchlythr Haf 2020

Cyfryngau Cymdeithasol a Mwy

Dolgoch Ty'n Cornel




Website by InSynch

Cysylltu

Dolgoch

Cyfeiriad – Hostel Dolgoch, Tregaron, Ceredigion SY25 6NR

Rheolwr – 01440 730 226

E-bost - dolgoch.bookings@elenydd-hostels.co.uk


Ty'n Cornel

Cyfeiriad – Hostel Ty’n Cornel, Llanddewi Brefi, Ceredigion SY25 6PH

Rheolwr – 01980 629259

E-bost - tyncornel.bookings@elenydd-hostels.co.uk